Dyddiad yr Adroddiad

02/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Ariannu

Cyfeirnod Achos

202502522

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi dilyn canllawiau mewn perthynas â gweithdrefnau ar gyfer trin gwladolion tramor. Yn benodol, dywedodd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried yn briodol a ddylid dileu’r ddyled a gafodd am driniaeth.

Canfu’r asesiad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried gallu’r achwynydd i dalu’r ddyled. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gysylltu, o fewn mis, â’r asiantaeth casglu dyledion i ailysgogi’r broses ac i Ms A gael ffurflen Incwm a Gwariant. Ar ôl llenwi a dychwelyd y ffurflen, byddai’r Bwrdd Iechyd wedyn yn dod i benderfyniad ynghylch a ellid ac a ddylid mynd ar drywydd y ddyled.