Dyddiad yr Adroddiad

20/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Ariannu

Cyfeirnod Achos

202307570

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Eiriolwr ar ran Mrs A am y gofal a gafodd ei merch, Ms B, gan fwrdd iechyd arall (“y Bwrdd Iechyd Cyntaf”) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“yr Ail Fwrdd Iechyd”) yn 2022. Yn benodol, cwynodd Mrs A am gyfathrebu’r Ail Fwrdd Iechyd â hi a’r Bwrdd Iechyd Cyntaf ynghylch y trefniadau cyllido ar gyfer llawdriniaeth Ms B.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a ddarparwyd gan yr Ail Fwrdd Iechyd mewn perthynas â’r trefniadau cyllido wedi cyrraedd safon briodol.

Gan na nodwyd unrhyw fethiant, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymelliadau ynghylch y gŵyn hon.