Bu i Ms A gwyno am yr ymateb a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i’w chwyn bod yr oedi cyn cynnal ei sgan dyddio yn ystod ei beichiogrwydd wedi peri nad oedd modd iddi gael profion sgrinio pellach am fod y sgan wedi’i gynnal ar ôl 14eg wythnos ei beichiogrwydd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn mynd i’r afael yn llwyr â chwyn Ms A. Penderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i fynd ati cyn pen mis i anfon ymateb pellach yn trafod y materion a oedd yn weddill. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn.