Cwynodd Ms X am y ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â chais am gyllid lleoli a oedd yn ymwneud â newid i leoliad ei mab. Mynegodd bryderon am oedi, cyfathrebu a’r modd y bu gweithwyr proffesiynol yn trafod y sefyllfa mewn cyfarfod.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Ms X wedi cael ymateb digonol i’w chŵyn, nad oedd yn rhoi sylw digon manwl i’r materion a godwyd. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb pellach yn dilyn cyfarfod ym mis Ionawr 2025, nid oedd yr wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd yn datrys pethau. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb arall i gŵyn Ms X, o fewn 6 wythnos, a fyddai’n rhoi sylw i’r holl bryderon a godwyd yn ei chwynion i’r Bwrdd Iechyd ac i’r Ombwdsmon, a hefyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig iddi am beidio rhoi sylw llawn i bob rhan o’i chŵyn yn ei ymateb cyntaf.