Dyddiad yr Adroddiad

01/05/2024

Achos yn Erbyn

Llywodraeth Cymru - Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Pwnc

Ariannu/ Benthyciadau Myfyrwyr

Cyfeirnod Achos

202301848

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gwasanaeth a ddarparwyd gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr mewn perthynas â’i chyllid fel myfyriwr. Yn benodol, cyfeiriodd at ei hawl, fel myfyriwr rhan-amser, i gael Grant Cymorth Arbennig, at sut y cafodd gordaliad ei drin ac at daliadau gofal plant.

Ar ôl gwneud ymholiadau, penderfynodd yr Ombwdsmon beidio ag ymchwilio i’r gŵyn, ond gofynnodd i’r CBM gymryd camau pellach yn lle hynny i setlo’r gŵyn.

Nododd yr Ombwdsmon fod Ms A wedi cael gwybod yn wreiddiol, yn anghywir, nad oedd ganddi hawl, fel myfyriwr rhan-amser, i gael Grant Cymorth Arbennig. Fodd bynnag, cywirwyd hyn wedyn a dyfarnwyd y grant. Ar lefel fwy cyffredinol, roedd y wybodaeth am y Grant Cymorth Arbennig yn wahanol rhwng y ffurflenni cais ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a llawn-amser, er nad oedd rheswm dros hynny. Nododd yr Ombwdsmon fod Llywodraeth Cymru a’r CBM wedi gwneud trefniadau i sicrhau bod y ffurflenni yr un fath, ond nad oedd y newidiadau gofynnol wedi’u rhoi ar waith ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol. Byddai hyn yn digwydd mewn pryd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.

O ran y gordaliad, canfu’r Ombwdsmon dystiolaeth o gamweinyddu oherwydd oedi cyn esbonio a chywiro’r gordaliad yn briodol, er bod hyn eisoes wedi cael sylw fel rhan o broses gŵynion y CBM. Roedd yr oediad hwn wedi achosi ansicrwydd i Ms A am swm y gordaliad a sut y byddai’n ei adennill. I gydnabod hyn, cytunodd y CBM i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A a thalu £400 iddi ex-gratia.

Ni chanfu’r Ombwdsmon ddim tystiolaeth o gamweinyddu o ran y taliadau gofal plant.