Cwynodd Mx M am oedi cyn i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ymateb i apêl am benderfyniad yr oedd wedi’i wneud.
Ni all yr Ombwdsmon ystyried y materion sy’n ymwneud â’r apêl ei hun, gan fod y materion hynny y tu allan i’w hawdurdodaeth (adran 13(1)(b) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019). Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol cyn i Mx M gael ymateb i’r apêl (a gyflwynwyd wedyn i Mx M ar ôl i’r gŵyn gael ei chyflwyno i swyddfa’r Ombwdsmon). Dywedodd yr Ombwdsmon fod yr oedi wedi achosi anhwylustod i Mx M, a chanfu nad oedd yr ymateb i’r apêl yn cynnig unrhyw ymddiheuriad nac esboniad am yr oedi, gan achosi rhagor o rwystredigaeth i Mx M. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i ymddiheuro i Mx X, ac i roi esboniad am yr oedi o fewn 5 wythnos.