Cwynodd Mr A nad oedd wedi cael ymateb i gŵyn mewn perthynas â materion yr oedd wedi’u codi’n ffurfiol gyda Well Pharmacy.
Dim ond mewn perthynas â gwasanaeth GIG y gall yr Ombwdsmon ystyried cwynion ac roedd y rhan fwyaf o gŵyn Mr A yn ymwneud â materion y tu allan i’r cylch gwaith hwn. Fodd bynnag, cwynodd Mr A fod ei bresgripsiwn ar gyfer pwmp asthma wedi cael ei stopio heb rybudd. Gan fod y gŵyn hon yn ymwneud â gwasanaeth presgripsiynu’r GIG, dylai’r Fferyllfa fod wedi cynnal ymchwiliad ffurfiol yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 a’r canllawiau cysylltiedig, Gweithio i Wella, Canllawiau ar ddelio â phryderon am y GIG.
Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Fferyllfa i wneud y canlynol:
O fewn 30 diwrnod gwaith, bydd y Fferyllfa yn rhoi ymateb sy’n cydymffurfio â Gweithio i Wella i Mr A mewn perthynas â’i gŵyn bod ei bresgripsiwn rheolaidd awtomatig ar gyfer pwmp asthma wedi cael ei stopio heb esboniad na rhybudd.