Dyddiad yr Adroddiad

19/01/2026

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202407677

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Fe wnaethom ymchwilio i gŵyn gan Mr A am Bractis Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Practis”), a honnai nad oedd dau atgyfeiriad diogelu a wnaed gan y Practis i’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn briodol.

Canfu’r ymchwiliad fod y ddau atgyfeiriad yn briodol ac ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau. Roedd y penderfyniad i wneud yr atgyfeiriad cyntaf yn briodol. Er nad oedd cyhuddiad newydd sylweddol wedi’i gynnwys yn yr ail atgyfeiriad, mae’r canllawiau diogelu’n egluro na ddylai hyn atal gweithiwr proffesiynol rhag gwneud atgyfeiriad pellach os bydd y pryderon yn parhau.