Cafwyd cwyn bod Llywodraeth Cymru wedi methu ystyried diogelwch trigolion wrth wneud newidiadau i’r ffordd a’r palmentydd lle mae’r achwynydd yn byw. Cytunwyd fel a ganlyn:
Gofynnodd yr Ombwdsmon i Lywodraeth Cymru adolygu’r wybodaeth a ddarparwyd gan Mr A ac ailystyried a yw’r gŵyn a gyflwynwyd o fewn cwmpas ei phroses gwyno. Cytunodd Llywodraeth Cymru i wneud hynny. Cytunodd i roi ymateb ffurfiol i Mr A yn egluro canlyniad yr adolygiad hwn ac yn ymddiheuro nad oedd wedi cael gwybod am y penderfyniad i beidio ag ystyried ei ohebiaeth fel cwyn. Cytunodd hefyd, pe bai’r adolygiad yn dod i’r casgliad bod y gŵyn yn bodloni’r meini prawf ar gyfer proses gwyno Llywodraeth Cymru, y byddai’n rhoi ymateb llawn i Mr A i’w gŵyn. Cytunodd Llywodraeth Cymru i gwblhau’r camau hyn o fewn 4 wythnos.