Dyddiad yr Adroddiad

19/12/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202406721

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Ceredigion (“y Cyngor”) wedi’i roi dan anfantais pan dynnodd yr ysgol a oedd yn arwain at angorfa ei gwch. Bu oedi sylweddol cyn trwsio’r ysgol ac nid oedd Mr A yn gallu mynd i mewn i’w gwch yn ystod y cyfnod hwnnw.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi colli cyfleoedd i ddarparu angorfa arall i Mr A, a fyddai wedi ei alluogi i barhau i fyn i mewn i’w gwch. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor wneud gostyngiad i’r ffioedd angori am y cyfnod yr oedd Mr A dan anfantais a rhoi anfoneb ddiwygiedig iddo a hynny o fewn pythefnos. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.