Dywedodd Mrs A ei bod hi a’i phartner yn ddigartref yn 2022. Ym mis Mawrth 2023, fe wnaethant symud i westy a rhoddwyd y rhan fwyaf o’u heiddo mewn storfa, a drefnwyd gan y Cyngor. Ym mis Mai 2024, llwyddodd Mrs A a’i phartner i sicrhau eiddo, ac fe wnaethant symud i mewn iddo. Yr adeg honno, gofynnodd hi am ddychwelyd eu heiddo. Cysylltodd Mrs A â’r Cyngor sawl gwaith ynglŷn â’r mater hwn, ond ni ddychwelwyd eu heiddo.
Roedd Mrs A eisiau dod o hyd i’w heiddo ond cydnabu, ar yr adeg hon, nad oeddent yn debygol o fod yn adferadwy. Dywedodd ei bod eisiau i’r Cyngor gael ei ddal yn atebol ac iddo gynnig iawndal, nid yn unig am yr eiddo coll, ond am y gofid a achoswyd ac am yr amser a’r drafferth wrth geisio datrys y mater am dros flwyddyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi ar ran y Cyngor wrth ddatrys y mater, a oedd wedi achosi niwed i Mrs A. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y ffordd y gwnaeth y Cyngor ymdrin â’r mater yn gyfystyr â chamweinyddu a oedd wedi achosi iddi ddioddef anghyfiawnder.
Hysbysodd y Cyngor yr Ombwdsmon fod y mater o iawndal am golli’r eitemau wedi’i basio’n ddiweddar i’w yswiriwr allanol i’w ystyried. Yn lle ymchwilio i’r gŵyn hon, cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i, o fewn 1 mis, wneud taliad amser a thrafferth o £250 i Mrs A.