Cwynodd Ms A am ei phrofiad gyda gweithiwr cymdeithasol y mae wedi delio ag ef ers 2023.
Ni ystyriwyd cwyn Ms A gan y Cyngor oherwydd bod y materion allan o amser a bod achos cyfreithiol yn mynd rhagddo. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi rhoi ymateb terfynol i ohebiaeth ddiwethaf Ms A am y gŵyn hon i egluro iddi pam na ellid ystyried y gŵyn. Achosodd y diffyg eglurhad hwn ddryswch a rhwystredigaeth i Ms A.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu ymddiheuriad a llythyr esboniad o fewn 4 wythnos am beidio ag ymateb i ohebiaeth ddiwethaf Miss A.