Cwynodd Mr A fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno Hysbysiad Ymwybyddiaeth o Beryglon yn anghywir mewn perthynas ag eiddo y mae’n landlord arno ac ynghylch y ffordd y gwnaeth y Cyngor ymdrin â’i gwynion.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw gamweinyddu wrth gyhoeddi’r Hysbysiad Ymwybyddiaeth o Beryglon ond bu oedi afresymol wrth ymateb i gwynion Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ysgrifennu at Mr R, o fewn pythefnos, i ymddiheuro am y ffordd roedd wedi delio â’i gwynion, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.