Dyddiad yr Adroddiad

02/29/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202307669

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am yr amser yr oedd Cyngor Caerdydd yn ei gymryd i drefnu addysg i’w fab, a oedd mewn gofal, ac nad oedd amserlen wedi’i darparu.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu cwblhau Cynllun Addysg Personol o fewn yr amserlen statudol ar gyfer mab Mr A. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi o ran rhoi darpariaeth addysgol ar waith, a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gwblhau Cynllun Addysg Personol ar gyfer mab Mr A o fewn 10 diwrnod gwaith. O fewn 10 diwrnod gwaith pellach, rhoi ymateb ysgrifenedig pellach i Mr A yn cadarnhau’r amserlen ar gyfer rhoi darpariaeth addysgol bellach ar waith ac ymddiheuro am y camgymeriad o beidio â chwblhau’r Cynllun Addysg Personol o fewn yr amserlen a nodwyd.