Dyddiad yr Adroddiad

19/08/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202501831

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Cyngor Caerdydd wedi methu â rhoi allwedd iddi ar gyfer ei gât ac wedi cynnig iawndal o £100 iddi, ac nid yw hi wedi’i dderbyn hyd yma.

Canfu’r Ombwdsmon fod y wybodaeth a ddarparwyd i adran gyllid y Cyngor yn dameidiog, ac felly roedd angen ei hailgyflwyno. Ni chyfathrebwyd y wybodaeth hon i’r maes gwasanaeth. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor, o fewn 2 wythnos, i gynnig ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi gyda’r taliad a chyhoeddi ymateb i gŵyn sy’n mynd i’r afael â phryderon eraill Miss X.