Cwynodd Mr A, yn dilyn ymchwiliad annibynnol, nad oedd Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) wedi cyflawni’r argymhellion a amlinellwyd yn adroddiad yr ymchwiliad yn llawn. Roedd hyn yn cynnwys ymateb yn llawn i gwestiynau oedd heb eu hateb am benderfyniadau a wnaed, llunio cynllun ar gyfer cyswllt â phlant Mr A a chymryd camau i wella’r ffordd y mae’r gwasanaeth yn rheoli cwynion a chyfathrebu.
Canfu asesiad yr Ombwdsmon, er bod rhai o’r awgrymiadau a amlinellwyd yn adroddiad yr ymchwiliad wedi’u bodloni, roedd camau gweithredu heb eu cymryd. Nid oedd y Cyngor wedi darparu ymateb i gwestiynau Mr A nac am y camau a gymerwyd i wella’r ffordd y mae’r gwasanaeth yn rheoli cwynion a chyfathrebu.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gymryd y camau canlynol, o fewn 3 wythnos, yn lle cynnal ymchwiliad ffurfio, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny:
Rhoi ymateb ysgrifenedig llawn i gwestiynau Mr A ynghylch penderfyniadau a wnaed a’r dystiolaeth am hyn.
Rhoi ymateb i Mr A yn cynnwys y camau penodol a fydd yn cael eu cymryd yn dilyn yr ystyriaethau ar gyfer gwella’r ffordd y mae’r gwasanaeth yn rheoli cwynion a chyfathrebu.