Cwynodd Miss S nad oedd Cyngor Abertawe wedi ymchwilio’n ffurfiol i gŵyn a godwyd ganddi ynglŷn â phrydau ysgol am ddim neu daliad yn lle hynny.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi trin cwyn Miss S fel cais am wasanaeth ond nad oedd wedi rhoi gwybod iddi. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ysgrifennu at Miss S, o fewn pythefnos, i ymddiheuro ac agor ymchwiliad Cam 2, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.