Dyddiad yr Adroddiad

05/09/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Merthyr Tudful Cyf

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202501971

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms T bod Cymdeithas Tai Merthyr Tudful wedi methu ymateb i gŵyn a gododd ym mis Mawrth 2025, ynghylch pryfed.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Gymdeithas wedi methu cwblhau ei hymchwiliad Cam 1 o fewn cyfnod o amser rhesymol ac ni uwchgyfeiriodd y mater i Gam 2. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms T. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i uwchgyfeirio’r gŵyn ar unwaith i Gam 2 ac ymateb i Ms T o fewn 4 wythnos.