Dyddiad yr Adroddiad

21/10/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202502905

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y cyfathrebiad a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd ynghylch mynediad at ofal a thriniaeth ddeintyddol.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu gwybodaeth i Mr A, nad oedd hyn yn manylu’n gynhwysfawr ar yr opsiynau sydd ar gael iddo ar gyfer gofal a thriniaeth ddeintyddol ac unrhyw gymorth sydd ar gael i gael mynediad at hyn. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a gytunodd i gymryd y camau canlynol i ddatrys y gŵyn ac fel dewis arall yn lle ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu gwybodaeth i Mr A i egluro’r opsiynau presennol sydd ar gael iddo ar gyfer gofal deintyddol, gan gynnwys triniaeth frys, ac unrhyw gymorth sydd ar gael i gael mynediad at hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn o fewn pythefnos.