Dyddiad yr Adroddiad

20/01/2026

Achos yn Erbyn

Pobl

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202507560

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B fod Pobl, wrth ymateb i’w chwyn, wedi methu datrys ac wedi methu mynd i’r afael â rhai materion yn gysylltiedig â’r gŵyn honno.

Er bod y rhan fwyaf o’r materion yng nghwyn Ms B wedi cael sylw, canfu’r Ombwdsmon nad oedd rhai materion wedi cael sylw. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i Pobl roi ymateb llawn i’r gŵyn, a hwnnw’n rhoi sylw’n benodol i’r materion nad aethpwyd i’r afael â hwy, ynghyd â rhoi ymddiheuriad ac esboniad am y diofalwch hwn. Cytunodd Pobl i wneud hynny.