Dyddiad yr Adroddiad

18/12/2025

Achos yn Erbyn

Pobl

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202506881

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd y Gymdeithas Tai wedi cymryd camau digonol i fynd i’r afael â’r pryderon a gododd ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol cymydog. Mynegodd Mr A bryder ynghylch diffyg cyfathrebu gan y Gymdeithas Tai.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Tai wedi darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn. Teimlai’r Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cymdeithasau Tai i ddarparu ymateb ffurfiol a chynhwysfawr i’r gŵyn o fewn 4 wythnos a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr A yn rheolaidd am y camau cyfreithiol sy’n cael eu cymryd yn erbyn y cymydog.