Cwynodd Ms C nad oedd Cymdeithas Tai Unedig Cymru wedi gweithredu ar adroddiadau o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac nad oedd wedi cyfathrebu’n effeithiol â hi ynghylch ei phryderon.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod penderfyniadau’r Gymdeithas Tai ynglŷn â pha gamau i’w cymryd wedi’i gwneud yn briodol, ond bod diffyg eglurder yn y cyfathrebu â Ms C a bod hynny wedi achosi dryswch ac ansicrwydd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i ysgrifennu at Ms C o fewn dwy wythnos i ymddiheuro am ddal ati i gysylltu â hi dros y ffôn ar ôl cytuno i gysylltu â hi drwy lythyr, ac i ofyn am ei chaniatâd i rannu recordiad o sŵn â’r Cyngor.