Cwynodd Ms A nad oedd Cymdeithas Tai Taf wedi cymryd camau priodol i atal mwg rhag dod i mewn i’w chartref.
Cydnabu’r Ombwdsmon fod Ms A wedi parhau i roi gwybod am yr achosion o fwg a oedd wedi dod i mewn er gwaethaf y camau a gymerwyd gan y Gymdeithas.
Ceisiodd yr Ombwdsmon a chael cytundeb y Gymdeithas i gynnal arolwg o fewn 8 wythnos o’r ardaloedd y cytunwyd arnynt, ac o fewn pythefnos i hyn, i roi’r canfyddiadau i Ms A, a threfnu gwaith pellach os oedd angen.