Cwynodd Ms A fod Cymdeithas Dai Linc Cymru (“y Gymdeithas Dai”) heb weithredu’n briodol yn dilyn ei hadroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol, pan oedd yn ofni ynglŷn â diogelwch ei theulu. Dywedodd Ms A fod methiant y Gymdeithas Dai i weithredu wedi arwain at oedi cyn dod o hyd i dŷ arall iddi. Dywedodd fod y cyfan wedi cael effaith negyddol ar ei hiechyd meddwl, ac nad oedd yn teimlo ei bod yn gallu ymdopi â’r sefyllfa mwyach.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y broses ar gyfer cynorthwyo Ms A i gael tŷ arall yn aneglur. Ni chafodd y cynnig o eiddo a wnaethpwyd yn y diwedd ei gadarnhau yn ysgrifenedig, ac ni roddwyd ffrâm amser. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi, rhwystredigaeth, ac ansicrwydd i Ms A ar adeg a oedd eisoes yn anodd iawn iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai, cyn pen 1 wythnos, ymddiheuro wrth Ms A am ei bod wedi gorfod cysylltu â’r Ombwdsmon, dweud bod y broses ailgartrefu yn aneglur, a chadarnhau’r cynnig o dŷ yn ysgrifenedig ag amcan o ffrâm amser ar gyfer symud. Cytunodd y Gymdeithas Dai i wneud hyn. Cytunodd y Gymdeithas Dai hefyd i adolygu’r polisïau perthnasol cyn pen 1 mis, er mwyn sicrhau bod proses glir a chyson i gynorthwyo tenantiaid sy’n ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig lle mae pryder ynghylch diogelwch, â chyngor a chymorth ailgartrefu priodol.