Dyddiad yr Adroddiad

01/16/2024

Achos yn Erbyn

Cartrefi Dinas Casnewydd

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202106968

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Roedd Ms Y yn denant i Gartrefi Dinas Casnewydd, landlord tai cymdeithasol (“y Gymdeithas”), a chwynodd i’r Ombwdsmon ynglŷn ag a oedd y Gymdeithas wedi cymryd camau priodol wrth ymateb i’w chŵyn iddynt am ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG) gan un o blant ei chymydog. Mynegodd bryderon hefyd am y modd y gwnaeth y Gymdeithas ymdrin â’i chŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i gŵynion Ms Y am YG; cafwyd cyfarfodydd rheolaidd a chysylltwyd â thrydydd partïon perthnasol. Roedd yn ymddangos bod ymateb y Gymdeithas a’r trydydd partïon wedi arwain at lai o adroddiadau am ddigwyddiadau YG. Ni chadarnhawyd yr agwedd hon ar y gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y polisi cwyno a oedd ar waith ar adeg cwyn Ms Y yn ddigon manwl. Roedd yn annog pobl i ddatrys cwyn yn anffurfiol ac yn gynnar, ond yn awgrymu y byddai pob cwyn yn cael ymateb ysgrifenedig. Ers hynny, mae’r Gymdeithas wedi newid y polisi i wneud y sefyllfa’n gliriach. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn ond awgrymodd y byddai wedi bod o gymorth pe bai’r Gymdeithas wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i Ms Y yr hyn yr oeddent wedi cytuno i’w wneud.