Bu i Ms B gwyno am y ffordd y bu i Gartrefi Dinas Casnewydd (“y Gymdeithas Dai”) ymdrin â chwynion a wnaed ganddi ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gymydog ar y llawr uwchben.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Dai wedi cymryd rhai camau, fod y problemau wedi parhau, ac nad oedd Ms B yn gwybod am gynllun hirdymor y Gymdeithas Dai i liniaru’r effaith arni. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai gytuno i fynd ati cyn pen pythefnos i anfon ymateb cwyn Cam 2 at Ms B a fydd yn rhoi sylw i’r pwyntiau y cytunwyd arnynt. Cytunodd y Gymdeithas Dai i wneud hyn.