Cwynodd Miss X nad oedd Caredig wedi atgyweirio’r dŵr a oedd yn gollwng o falconi ei chymydog ac nad oedd wedi cael ymateb i gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi mynd i’r eiddo i wneud gwaith atgyweirio i’r balconi; fodd bynnag, nid oedd wedi rhoi sylw i bryderon Miss X drwy ei gweithdrefn gwynion ffurfiol. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas, cyn pen 3 wythnos, gynnig ymddiheuriad i Miss X am beidio â rhoi sylw i’w phryderon drwy ei gweithdrefn gwynion ffurfiol yn gynharach, cyflwyno ymateb ffurfiol i gŵyn, a chynnig iawndal o £100 i Miss X i gydnabod yr oedi a’r amser a’r drafferth o orfod gwneud cwyn i’r Ombwdsmon. Cytunodd y Gymdeithas i wneud hyn.