Cwynodd Ms A am y camau a gymerwyd gan y Cyngor i fynd i’r afael â’i phryderon ynghylch tresmasu a cherbydau’n parcio ar ei heiddo preifat.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi darparu ymatebion yn amlinellu’n fyr y camau a gymerodd i fynd i’r afael â’r gŵyn. Fodd bynnag, nid oedd hyn wedi datrys y pryderon a godwyd yn llawn. Nid oedd yr ymateb i’r gŵyn yn manylu’n gynhwysfawr ar y camau a gymerwyd, neu a gynlluniwyd, nac yn darparu unrhyw opsiynau oedd ar gael i Ms A pe bai’n profi problemau pellach.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymateb cynhwysfawr i Ms A i’w chŵyn o fewn 4 wythnos. Cytunodd i esbonio’r camau a gymerwyd gan y Cyngor i fynd i’r afael â’r pryderon ac egluro unrhyw gamau gweithredu sy’n weddill y cytunwyd arnynt, ynghyd ag amserlenni ar gyfer eu cwblhau. Yn ogystal, cytunodd i gadarnhau’r opsiynau sydd ar gael i Ms A pe bai ganddi unrhyw bryderon pellach.