Cwynodd Mrs A am y camau a gymerwyd gan Gyngor Sir Fynwy i ddarparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ei phlentyn. Cododd bryderon am y prosesau a ddilynwyd, gan gynnwys bod y Cyngor wedi oedi cyn ysgwyddo cyfrifoldeb am gynllun datblygu unigol ei phlentyn. Cododd Mrs A bryderon hefyd am y modd y cyfathrebodd y Cyngor â hi a’r modd y deliodd â’i chwyn. At hynny, cwynodd Mrs A am y modd y rheolodd y Cyngor ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ar gyfer ei phlentyn.
Canfu asesiad yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mrs A, a hynny o fewn yr amserlen ddisgwyliedig. Serch hynny, nid oedd wedi rhoi ymateb llawn, gan gynnwys esboniad ac ymddiheuriad am yr oedi wrth gytuno i ysgwyddo cyfrifoldeb am y cynllun datblygu unigol. Canfu’r Ombwdsmon fod cwyn Mrs A am ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol wedi’i gwneud yn rhy gynnar i gyfiawnhau ymchwiliad gan yr Ombwdsmon.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor roi esboniad ac ymddiheuriad am yr oedi a fu cyn iddo ysgwyddo cyfrifoldeb am y cynllun datblygu unigol. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny. Cytunodd y Cyngor i roi ymateb llawn i gŵyn Mrs A am yr ohebiaeth a ddarparwyd pan gytunodd i fod yn gyfrifol am y cynllun datblygu unigol. Cytunodd hefyd i roi ymateb llawn i’r pryderon a godwyd gan Mrs A ynghylch penderfyniadau, camau gweithredu a gohebiaeth y Cyngor mewn perthynas â darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r camau hyn o fewn 4 wythnos.