Dyddiad yr Adroddiad

14/10/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) / Anghenion Addysg Arbennig (AAA)

Cyfeirnod Achos

202504362

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y ffordd y gwnaeth Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ymdrin ag adolygiad Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ei phlentyn a’r gŵyn ddilynol a wnaeth iddo. Cwynodd Mrs A nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w chŵyn mewn modd amserol a bod diffyg cyfathrebu drwyddo draw. Cwynodd Mrs A hefyd am y geiriad a ddefnyddiwyd yn y CDU a bod yr amser a gymerwyd i sicrhau ei fod yn gywir y tu allan i ganllawiau statudol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Cyngor gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn a’i fod wedi methu ag egluro’n iawn y rhesymau dros y gwelliannau i ddrafft cyntaf y CDU. Nid oedd yn glir chwaith pa gyfnod yr oedd y CDU yn ei gwmpasu a phryd y byddai’r adolygiad nesaf yn cael ei gynnal. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro am yr oedi yn ei ymateb, rhoi eglurhad ynghylch geiriad drafft cyntaf y CDU, adolygu’r amserlen y dylid bod wedi cyhoeddi’r ymateb drafft ynddi, a chadarnhau gyda Mrs A pryd a sut y byddai’r adolygiad nesaf yn cael ei gynnal.