Dyddiad yr Adroddiad

28/04/2022

Achos yn Erbyn

Valleys To Coast Housing

Pwnc

Anfoesgarwch/ ymddygiad anystyriol/ agwedd staff

Cyfeirnod Achos

202200281

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod y Gymdeithas wedi methu â rhoi gwybod iddi bod eu gweithdrefn gwyno am newid, a gwrthododd gais i adolygiad eu penderfyniad.
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod camau’r Gymdeithas wedi achos anghyfleustra i Miss X ac felly cysylltodd â’r Gymdeithas. Cadarnhaodd y Gymdeithas fod newid yn eu gweithdrefn gwyno ar 22 Mawrth 2022 wedi golygu nad oedd achwynwyr yn gallu gwneud cais am adolygiad mwyach. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Gymdeithas, oherwydd bod Miss X wedi cyflwyno ei chwyn cyn gwneud y newidiadau, y byddai’n ymddiheuro am beidio â rhoi gwybod iddi erbyn 16 Mai 2022, a bod swyddog arall yn adolygu ei chwyn erbyn 6 Mehefin 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Miss X.