Cwynodd Ms A nad oedd Practis Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (“y Practis”) wedi darparu ymateb i’w chwyn, a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2025. Cwynodd hefyd am ymddygiad aelod o staff ym mis Gorffennaf 2024 a llythyr rhybudd a anfonwyd at ei modryb a’i hewythr.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd modd cyflawni unrhyw beth pellach mewn perthynas ag ymddygiad aelod o staff a’r llythyr rhybuddio. Roedd gweithredoedd y Practis wedi bod yn rhesymol. Fodd bynnag nodwyd, ar ôl i Ms A gael ei gwahodd i gyflwyno cwyn, na dderbyniodd ymateb wedyn. Er bod yr Ombwdsmon wedi cydnabod safbwynt y Practis, penderfynwyd bod angen anfon llythyr at Ms A mewn ymateb. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ddarparu llythyr i Ms A mewn ymateb i’w chwyn a gyflwynwyd ar 19 Mehefin 2025 o fewn pythefnos.