Dyddiad yr Adroddiad

03/07/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Anfoesgarwch/ ymddygiad anystyriol/ agwedd staff

Cyfeirnod Achos

202206992

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr Z nad oedd Cyngor Caerdydd wedi ystyried ei fideo pan oedd wedi ymchwilio i’w gŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon bod y Cyngor wedi bod yn ddiofal o ran peidio ag ystyried tystiolaeth Mr Z, ac roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr Z. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ystyried fideo Mr Z a rhoi ymateb pellach iddo o fewn 4 wythnos.