Dyddiad yr Adroddiad

12/05/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Anfoesgarwch/ ymddygiad anystyriol/ agwedd staff

Cyfeirnod Achos

202205413

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms L fod y staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi gweithredu’n amhroffesiynol ac yn amhriodol pan oedd yn rhaid iddi gael sgan MRI ym mis Tachwedd 2022. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu dilyn y drefn gwyno statudol ac wedi methu cymryd camau priodol yng nghyswllt ei phryderon.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn llawn eto i bryderon Ms L a bod rhagor o wybodaeth i’w rhannu â hi. Dywedodd fod hyn yn peri rhwystredigaeth i Ms L a bod diffyg cyfathrebu wedi bod.

Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb llawn i Ms L a rhannu unrhyw wybodaeth bellach am y mater o fewn 30 diwrnod gwaith.