Cafodd Mr A lawdriniaeth ar ei lygaid yn 2023 a chafodd gataract sy’n gymhlethdod hysbys o’r math o driniaeth a gafodd. Cwynodd Mr A, a roddwyd ar y rhestr aros frys am lawdriniaeth cataract ym mis Mawrth 2024, am oedi cyn cynnal y llawdriniaeth. Mynegodd bryderon hefyd am y dirywiad yn ei olwg ac y gallai hynny ddadwneud manteision ei lawdriniaeth llygaid flaenorol.
Nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd yn ei ymateb i gwyn Mr A wedi mynd i’r afael â’r mater o niwed fel rhan o’i ymateb Gweithio i Wella (“PTR”). Roedd safle Mr A ar y rhestr aros hefyd yn aneglur yn ogystal â phwy, yn llawfeddygol, oedd yn gyfrifol am reoli a gofalu am ei gataract.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb pellach i gŵyn i Mr A a oedd yn mynd i’r afael â’r mater o niwed. Yn ogystal, cytunodd i roi diweddariad cyffredinol ar ei safle ar y rhestr aros ac egluro llwybr gofal Mr A. Dywedodd hefyd y byddai’n adolygu achos Mr A, ac yn nodi camau i sicrhau bod gofynion PTR ynghylch niwed yn cael eu bodloni lle bo hyn yn briodol.