Dyddiad yr Adroddiad

06/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Cyfeirnod Achos

202407196

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â darparu apwyntiad a thriniaeth ar y cyd ar gyfer Orthodonteg a Deintyddiaeth Adferol i’w merch, ers iddi gael ei hatgyfeirio yn 2021.

Esboniodd y Bwrdd Iechyd, er gwaethaf hysbysebu parhaus, fod swydd Deintydd Adferol Ymgynghorol yn parhau’n wag. Fe eglurodd y datrysiadau eraill yr oedd wedi’u hystyried, cyn cadarnhau ei fod wedi sicrhau rhywfaint o gymorth locwm dros dro. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 2 wythnos, yn ymddiheuro i Ms A ei bod wedi gorfod cysylltu â’r Ombwdsmon, ac i gynnig apwyntiad i’w merch gyda’r Meddyg Ymgynghorol Locwm priodol.