Cwynodd Ms A am oedi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn dilyn endosgopi ei mam, ac nad oedd yr ymateb a ddarparwyd i’w chŵyn wedi mynd i’r afael â’i holl bryderon.
Er bod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ymchwiliad i’r gŵyn, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan Ms A pan gysylltodd am ei phryderon a oedd heb eu datrys. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A am beidio â mynd i’r afael â’i phryderon heb eu datrys ac i ddarparu ymateb ysgrifenedig pellach i’r gŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn o fewn 6 wythnos ar ôl penderfyniad yr Ombwdsmon.