Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2024

Achos yn Erbyn

Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Cyfeirnod Achos

202201496

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr D ei fod wedi aros am amser hir i gael llawdriniaeth orthopedig ac na chafodd ei ddealltwriaeth o sut y câi ei drin ei rheoli’n dda o ran yr asesiadau cyn y llawdriniaeth.

Mae’r amser aros am lawdriniaeth orthopedig yn y Bwrdd Iechyd dros 4 mlynedd. Roedd y Bwrdd Iechyd yn wynebu problemau gan gynnwys prinder staff, dim digon o fannau addas i gynnal llawdriniaeth, trefniadau rheoli aneglur, a phrosesau aneglur ar gyfer y llawdriniaethau hyn.

Nododd yr Ombwdsmon, yn yr achos hwn a 2 arall, yn ogystal â’r oediadau hir sy’n wynebu pob claf sy’n aros am lawdriniaeth orthopedig, fod yr achwynwyr wedi cael eu trin yn annheg oherwydd gwallau wrth reoli’r rhestri aros. Roedd y materion hyn yn peri pryder i’r Ombwdsmon ynglŷn â sut y cafodd y rhestr aros ei rheoli.

Cafodd Mr D ei dynnu oddi ar y rhestr aros ar ôl colli apwyntiadau llawdriniaeth oherwydd ei fod yn yr ysbyty â salwch arall. Er bod y canllawiau’n darparu ar gyfer y math hwn o sefyllfa, tynnwyd Mr D oddi ar y rhestr ac mae’n aros i gael ei “drin yn ei dro”; mae’n ymddangos bod hynny’n groes i’r broses. 65 mis (5 mlynedd a hanner) ar ôl cael ei roi ar y rhestr i gael llawdriniaeth, mae’n dal i aros i gael ei drin. Mae mewn llawer o boen, ac mae hyn wedi effeithio’n sylweddol ar ei lesiant.

Hefyd, bu’n rhaid i Mr D fynd drwy straen a phoen asesiadau cyn llawdriniaeth, a gododd ei obeithion y byddai’r llawdriniaeth yn digwydd cyn bo hir, er y byddai’r Bwrdd Iechyd wedi gwybod na fyddent yn gallu darparu’r llawdriniaeth cyn i’r asesiad cyn llawdriniaeth ddod i ben. Nid wnaethant ystyried hyn na dweud wrth y cleifion.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau i gwtogi eu rhestri aros felly ni wnaeth argymhellion am hynny. Fodd bynnag, oherwydd y materion a nodwyd mae wedi gofyn i’r Bwrdd Iechyd adolygu’r penderfyniadau a wnaethant ynglŷn â Mr D. Hefyd, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd archwilio eu rhestr aros gyfan i ganfod a wnaethpwyd camgymeriadau o ran amseroedd cleifion eraill ar y rhestr aros, neu eu tynnu oddi ar y rhestr yn amhriodol, ac os do, y dylid ymddiheuro i’r cleifion hynny a chywiro’r camgymeriadau.