Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2024

Achos yn Erbyn

Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Cyfeirnod Achos

202200361

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Dywedodd Mrs B ei bod wedi aros am amser hir i gael llawdriniaeth orthopedig ac na chafodd ei dealltwriaeth o sut y câi ei thrin ei rheoli’n dda o ran yr asesiadau cyn y llawdriniaeth.

Mae’r amser aros am lawdriniaeth orthopedig yn y Bwrdd Iechyd dros 4 mlynedd. Roedd y Bwrdd Iechyd yn wynebu problemau gan gynnwys prinder staff, dim digon o fannau addas i gynnal llawdriniaeth, trefniadau rheoli aneglur, a phrosesau aneglur ar gyfer y llawdriniaethau hyn.

Nododd yr Ombwdsmon, yn yr achos hwn a 2 arall, yn ogystal â’r oediadau hir sy’n wynebu pob claf sy’n aros am lawdriniaeth orthopedig, fod yr achwynwyr wedi cael eu trin yn annheg oherwydd gwallau wrth reoli’r rhestri aros. Roedd y materion hyn yn peri pryder i’r Ombwdsmon ynglŷn â sut y cafodd y rhestr aros ei rheoli.
Cafodd Mrs B ei hatgyfeirio yn 2018 oherwydd poen yn ei chlun dde, ac eto yn 2021 oherwydd poen yn ei chlun chwith. Caewyd yr atgyfeiriad ar gyfer ei chlun chwith drwy gamgymeriad, ond yn 2023 cafodd driniaeth ar ei chlun chwith (yn lle ei chlun dde gan ei bod yn glinigol waeth) ac fe’i tynnwyd oddi ar y rhestr aros ar gyfer ei chlun dde, er bod angen triniaeth arni o hyd. Mae ei chlun dde’n dal i fod yn ddifrifol boenus 5 mlynedd ar ôl yr atgyfeiriad gwreiddiol ac mae hi’n dal i aros am lawdriniaeth arni.

Hefyd, bu’n rhaid i Mrs B fynd drwy straen a phoen asesiad cyn llawdriniaeth, a gododd ei gobeithion y byddai’r llawdriniaeth yn digwydd cyn bo hir. Camgymeriad gweinyddol oedd yn gyfrifol am hyn.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau i gwtogi eu rhestri aros felly ni wnaeth argymhellion am hynny. Fodd bynnag, oherwydd y problemau a nodwyd â’r amser aros, mae wedi gofyn i’r Bwrdd Iechyd adolygu’r penderfyniadau a wnaethant ynglŷn â Mrs B a’i safle ar y rhestr aros. Hefyd, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd archwilio eu rhestr aros gyfan i ganfod a wnaethpwyd camgymeriadau o ran amseroedd cleifion eraill ar y rhestr aros, neu eu tynnu oddi ar y rhestr yn amhriodol, ac os do, y dylid ymddiheuro i’r cleifion hynny a chywiro’r camgymeriadau.