Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2024

Achos yn Erbyn

Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Cyfeirnod Achos

202200425

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs C ar ran ei gŵr Mr C, ei fod wedi aros am amser hir i gael llawdriniaeth orthopedig ac na chafodd eu dealltwriaeth o sut y câi ei drin ei rheoli’n dda o ran yr asesiadau cyn y llawdriniaeth.

Mae’r amser aros am lawdriniaeth orthopedig yn y Bwrdd Iechyd dros 4 mlynedd. Roedd y Bwrdd Iechyd yn wynebu problemau gan gynnwys prinder staff, dim digon o fannau addas i gynnal llawdriniaeth, trefniadau rheoli aneglur, a phrosesau aneglur ar gyfer y llawdriniaethau hyn.

Nododd yr Ombwdsmon, yn yr achos hwn a 2 arall, yn ogystal â’r oediadau hir sy’n wynebu pob claf sy’n aros am lawdriniaeth orthopedig, fod yr achwynwyr wedi cael eu trin yn annheg oherwydd gwallau wrth reoli’r rhestri aros. Roedd y materion hyn yn peri pryder i’r Ombwdsmon ynglŷn â sut y cafodd y rhestr aros ei rheoli.
Yn ôl yr asesiad, roedd angen llawdriniaeth ar Mr C o fewn mis, ond bu’n aros am y llawdriniaeth am 43 mis (3 mlynedd a 7 mis) mewn poen difrifol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd ei safle ar y rhestr aros ei ailosod drwy gamgymeriad a hefyd fe’i tynnwyd oddi ar y rhestr drwy gamgymeriad.

Hefyd, bu’n rhaid i Mr C fynd drwy straen a phoen asesiad cyn llawdriniaeth, er y byddai’r Bwrdd Iechyd wedi gwybod na fyddent yn gallu darparu’r llawdriniaeth cyn i’r asesiad cyn llawdriniaeth ddod i ben, ond ni wnaethant ystyried hyn na dweud wrth Mr C.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau i gwtogi eu rhestri aros felly ni wnaeth argymhellion am hynny. Fodd bynnag, oherwydd y materion a nodwyd mae wedi gofyn i’r Bwrdd Iechyd adolygu’r penderfyniadau a wnaethant ynglŷn â Mr C. Hefyd, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd archwilio eu rhestr aros gyfan i ganfod a wnaethpwyd camgymeriadau o ran amseroedd cleifion eraill ar y rhestr aros, neu eu tynnu oddi ar y rhestr yn amhriodol, ac os do, y dylid ymddiheuro i’r cleifion hynny a chywiro’r camgymeriadau.