Dyddiad yr Adroddiad

03/03/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Addysg anghenion arbennig (AAA)

Cyfeirnod Achos

202206115

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am fethiant y Cyngor i ddarparu offer cynorthwyol TG i’w ferch anabl yn amserol. Adnabuwyd yr angen am yr offer perthnasol ym mis Mawrth 2022. Derbyniwyd yr offer ym mis Ionawr 2023.

Wrth ystyried ei chwyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch yr oedi mewn darpariaeth o offer TG i gynorthwyo addysg ei merch. Roedd hefyd yn bryderus ynglyn â’r modd bu i’r Cyngor delio a’i chwyn.

Cytunodd y Cyngor i ymgymryd â’r canlynol i setlo ei chwyn, yn lle ymchwiliad llawn iddi: i gydnabod ac ymddiheuro’n ffurfiol i Mrs A, o fewn 1 mis, am yr oedi annerbyniol a’r effaith niweidiol achoswyd; i gynnig taliad o £500, o fewn 1 mis, i Mrs A i adlewyrchu’r oedi annerbyniol wrth ddarparu’r offer TG ac am yr amser a’r drafferth gwariwyd ganddi; i ddarparu tystiolaeth ac esboniad i’r Ombwdsmon, o fewn 2 mis, o’r gwelliannau i’r broses o archebu offer TG; i sicrhau nid oes unrhyw blentyn arall anabl yn dioddef o oedi sylweddol wrth i’r Cyngor archebu offer cynorthwyol TG (ac os oes yna rhai sydd yn dioddef y fath oedi, i ddatrys yr oedi hynny), o fewn 2 mis, ac, yn olaf, i ystyried darparu hyfforddiant i swyddogion o’r adran berthnasol ynglyn â thrin a chwynion (yn unol â phroses cwynion y Cyngor), o fewn 2 mis.