Dyddiad yr Adroddiad

10/04/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Addysg anghenion arbennig (AAA)

Cyfeirnod Achos

202404809

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mr A am yr oedi a fu yn y broses i gwblhau Cynllun Datblygu Unigol (“IDP”) ar gyfer ei ferch B. Roedd B wedi cael ei haddysg mewn ysgol annibynnol oherwydd ei hanghenion dysgu ychwanegol. Roedd Cyngor Gwynedd (“y Cyngor”) wedi bod yn ariannu ei lleoliad ers penderfyniad tribiwnlys addysg ym mis Rhagfyr 2024. Cwynodd Mr A fod yr oedi cyn cwblhau’r IDP wedi golygu mai ef, yn hytrach na’r Cyngor, oedd yn gyfrifol am ariannu’r lleoliad am gyfnod hwy na’r disgwyl.

Mae’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn nodi’r amserlen ar gyfer cwblhau IDP o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Roedd y Cyngor yn cydnabod yr oedi a fu yn y broses yn achos B a’i fod wedi adolygu’r rhesymau am yr oedi. Roedd rhai y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, ond roedd yn derbyn bod yr amser a gymerwyd i gwblhau’r IDP yn hwy na’r hyn a bennir yn y Cod. I setlo’r gŵyn, cytunodd y Cyngor, o fewn 6 wythnos, i:
• Cyhoeddi ymddiheuriad ysgrifenedig ffurfiol i Mr A am yr oedi yn yr achos hwn.
• Ad-dalu’r hyn sy’n cyfateb i 8 wythnos o ffioedd lleoliad ysgol a dalwyd gan Mr A.