Dyddiad yr Adroddiad

03/21/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Addysg anghenion arbennig (AAA)

Cyfeirnod Achos

202104667

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am yr oedi cyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) fwrw ymlaen â datganiad adolygu Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) diwygiedig ei fab. Roedd hefyd yn anfodlon â’r ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â’i gŵyn a pha mor gadarn oedd ei ymateb i’r gŵyn.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod diffygion o ran cyfathrebu yn ffactor yn y ddwy agwedd ar gwynion Mr A. Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod yr heriau staffio yr oedd Cyfarwyddiaeth y Cyngor yn eu hwynebu ar y pryd, a gafodd eu gwaethygu gan bandemig COVID-19. Fodd bynnag, teimlai y gellid bod wedi gwneud mwy i gyfathrebu’n gynharach o lawer â Mr A, am yr oedi yn y datganiad adolygu AAA, a’r mesurau sydd ar waith nes iddynt gael eu cyhoeddi. Felly cadarnhaodd y rhan hon o gŵyn Mr A. Canfu’r Ombwdsmon, o ran y ffordd yr ymdriniwyd â chwyn Mr A, nad oedd y Cyngor wedi cydnabod nac egluro’n briodol sut yr oedd wedi delio â’i ohebiaeth flaenorol yn ei ymateb i’r gŵyn iddo. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod methiannau’r Cyngor yn gamweinyddu ac wedi achosi anghyfiawnder i Mr A. Cadarnhaodd ddwy ran o’i gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor ymddiheuro i Mr A am y diffygion cyfathrebu ac os na wnaeth hynny, dylai’r Gyfarwyddiaeth gyflwyno system ar gyfer cydnabod ac egluro’r broses ar gyfer cwynion anffurfiol Cam 1 a wneir yn uniongyrchol iddi. Cytunodd y Cyngor i weithredu’r argymhellion.