Dyddiad yr Adroddiad

04/20/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Pwnc

Addysg anghenion arbennig (AAA)

Cyfeirnod Achos

202207117

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi methu â chynnal asesiad AAA o’i merch mewn modd amserol, a bod hynny wedi effeithio ar ei mynediad at addysg.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Cyngor wedi cymryd mwy o amser nag y dylid i asesu merch Mrs C, bod diffyg cyfathrebu clir ac nad oedd y Cyngor wedi ymddiheuro am y methiannau hyn. Achosodd hyn i Mrs C a’i merch deimlo’n bryderus ac ansicr, a dywedodd ei fod wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a gwneud i’r teulu cyfan deimlo dan straen.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor ac er mwyn datrys cwyn Mrs C. Cytunodd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i ymddiheuro am yr oedi wrth ymateb i gŵyn Mrs C, ymddiheuro am yr oedi o ran cynnal asesiad AAA, cydnabod bod yr oedi yn yr asesiad AAA wedi effeithio ar fynediad ei merch at addysg ac amlygu’r meysydd gwella rhag i hyn ddigwydd eto.