Cwynodd Ms B fod Cyngor Abertawe wedi methu ag ymateb yn llawn i gŵyn a wnaeth am ymddygiad y Cyngor pan ofynnodd iddo benderfynu a oedd gan ei mab Anghenion Dysgu Ychwanegol (“ADY”), ym mis Mai 2024. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi methu â chofnodi cyfarfod mewnol yn swyddogol yn ymwneud ag anghenion addysgol ei mab.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod ymatebion i gwynion Cam 2 wedi’u hanfon mewn perthynas â’r ddwy gŵyn, nad oedd Ms B wedi derbyn ymateb llawn i’r gŵyn ynglŷn ag ymddygiad staff wrth benderfynu ar yr ADY, nac ymddiheuriad digonol mewn perthynas â chofnodion y cyfarfod. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor, a’i gael, y byddai’n anfon ymateb pellach i’r gŵyn o fewn 1 mis yn mynd i’r afael â’i phryderon, a ddylai hefyd gynnwys ymddiheuriad am beidio â chofnodi’r cyfarfod, ac amlinellu gwersi a ddysgwyd i sicrhau bod cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu cofnodi.