Yn unol â’r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn monitro’n agos y sefyllfa barhaus o ran y Coronafeirws (COVID-19) ac yn rheoli’r effaith ar ein sefydliad, yn ogystal ag ar y gwasanaethau cyhoeddus allweddol yr ydym yn gweithio â nhw.

Rwy’n dra ymwybodol o’r pwysau cyfredol sydd ar wasanaethau cyhoeddus, a fy nod yw cefnogi darparwyr, yn hytrach nag ychwanegu unrhyw bwysau ychwanegol arnynt yn ystod yr amseroedd heriol hyn. Yn yr un modd, rydym yn cydnabod bod llawer o bobl yn fwy dibynnol nag erioed ar wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i’r argyfwng hwn. Mae’n bwysig ein bod yn parhau â’n gwasanaeth cyfeirio sy’n dangos i unigolion bregus neu ynysig sut i ddod o hyd i wasanaethau a all ddarparu cefnogaeth iddynt yn ystod yr adeg anodd hon. Dyna pam rydym yn parhau i gynnig ein gwasanaeth, ond byddwn yn parhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn ystod yr adeg hon. Rydym mewn cysylltiad â byrddau iechyd, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac awdurdodau lleol a byddwn yn cael ein harwain ganddynt wrth benderfynu a allwn fynd ymlaen â chwynion ar hyn o bryd a sut y gallwn wneud hynny.

Nid ydym yn bwrw ymlaen ag unrhyw gwynion nac ymchwiliadau sy’n ymwneud â meddygfeydd meddygon teulu neu fferyllfeydd ar hyn o bryd, ac nid ydym ychwaith yn derbyn cwynion dibwys, fel y rhai sy’n ymwneud â newidiadau i gasgliadau gwastraff o ganlyniad i’r pandemig.

Rydym yn annog darparwyr i gysylltu â fy swyddfa os yw eu gallu i gyflwyno gwybodaeth ac ymgysylltu â ni yn cael ei gyfaddawdu oherwydd llai o gapasiti a phwysau cynyddol. Mae llawer o gwynion yn deillio neu yn gwaethygu yn sgil disgwyliadau afresymol ar ran rhai aelodau o’r cyhoedd. Rydym yn cefnogi cyrff cyhoeddus yn hyn o beth drwy gau cwynion sydd heb rinwedd yn gyflym pan gânt eu gwneud i’m swyddfa. Mae’n debygol y bydd gallu gwasanaethau yn cael ei effeithio ac rydym yn annog darparwyr i osod amserlenni realistig ag achwynwyr ynglŷn â’u gallu i ymateb. Wrth gwrs, gellir ymestyn terfynau amser o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn.

Gan ein bod mewn sefyllfa sy’n symud yn gyflym, byddwn, wrth gwrs, yn rhoi’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan o ran unrhyw ddatblygiadau pwysig gan fy swyddfa.

Nick Bennett

Ombwdsmon