Fel y nodir yn ein cynllun strategol tair blynedd Arloesi, Dylanwadu a Gwella, rydym yn ystyried bod tryloywder a bod yn agored yn werthoedd allweddol i’n sefydliad.

Data agored yw “data a gaiff ei ddefnyddio, ei ail-ddefnyddio a’i ail-ddosbarthu’n rhwydd gan unrhyw un – yn ddarostyngedig ddim ond, ar y mwyaf, i’r gofyniad i rannu a phriodoli fel ei gilydd.”

Isod fe welwch restr o’r holl gwynion a gaewyd gan y swyddfa hon yn ystod y flwyddyn.  Caiff ei diweddaru’n chwarterol.

Mae defnyddio’r data hwn yn ddarostyngedig i’r egwyddorion cyffredin ar gyfer data agored a amlinellir uchod, ac fel y nodir yn fwy manwl yn y Drwydded Llywodraeth Agored.