Triniaeth Deg i Fenywod Cymru yw’r unig elusen sy’n cael ei harwain gan gleifion a sefydliad pobl anabl yng Nghymru ac sydd wedi ymrwymo’n llwyr i gydraddoldeb iechyd menywod. Rydyn ni’n cefnogi ac yn grymuso menywod a phobl a ddynodwyd yn fenywod adeg eu geni yng Nghymru sy’n anabl a / neu sy’n byw gydag amrywiaeth o gyflyrau iechyd hirdymor er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed mewn polisi ac ymarfer. Fel ‘arbenigwyr drwy brofiad’, rydyn ni a’n tîm o wirfoddolwyr yn eiriol dros anghenion gofal iechyd buddiolwyr yn lleol, yn genedlaethol ac ar lefel y DU. Ar hyn o bryd, mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru hefyd yn gyd-gadeiryddion ‘Clymblaid Iechyd Menywod Cymru’ y trydydd sector, lle mae ei thystiolaeth wedi bod yn allweddol i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyd-gynhyrchu Cynllun y GIG ar gyfer Iechyd Menywod a Merched yng Nghymru.

Rydyn ni’n gwasanaethu Cymru gyfan ac yn cefnogi menywod a phobl a ddynodwyd yn fenywod adeg eu geni sy’n byw (neu’n cael gofal) yng Nghymru ac sy’n anabl / yn byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor. Fodd bynnag, byddwn ni bob amser yn ceisio atgyfeirio unrhyw un yng Nghymru sy’n ceisio cael cymorth gennym ni i gael gafael ar wasanaethau gofal iechyd yn briodol.

Gallwn ni gynnig cymorth gan gymheiriaid ac eiriolaeth sifil (h.y. eirioli ar ran grŵp o bobl y mae materion cyffredin yn effeithio arnynt, yn hytrach nag eiriolaeth broffesiynol / un i un).

Swyddfa 5, Canolfan Fusnes Plas Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Gogledd Cymru, LL29 8BF