Y Rhwydwaith Maethu yw prif elusen maethu’r DU, ac mae’n dod â phawb sy’n ymwneud â bywydau plant a phobl ifanc ac sy’n cael eu maethu at ei gilydd er mwyn gwneud gofal maeth y gorau y gall fod.

Mae Maethu Cymru yn wasanaeth cynghori dwyieithog sy’n darparu gwybodaeth a chyngor annibynnol a chyfrinachol ar bob agwedd ar faethu yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd angen gwybodaeth neu gyngor am faethu, gan gynnwys darpar ofalwyr maeth, gofalwyr maeth cyfredol, cyn-ofalwyr maeth sy’n warcheidwaid arbennig, gwasanaethau maethu, ymarferwyr addysg ac iechyd a phob aelod arall o’r cyhoedd. Mae Maethu Cymru’n cael ei redeg gan y Rhwydwaith Maethu, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

33-35 Ffordd y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9HB