Mae gan Race Equality First fwy na 40 mlynedd o brofiad fel y corff arweiniol cydnabyddedig yn ne Cymru ar gyfer mynd i’r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb, a hyrwyddo’r neges bod Cydraddoldeb Hil yn hawl ddynol.

Rydyn ni’n arbenigwyr ym maes cydraddoldeb hil, ac yn cynghori'r Cenhedloedd Unedig a Llywodraeth y DU. Erbyn hyn, Race Equality First yw'r unig Gyngor Cydraddoldeb Hil yng Nghymru sydd â chylch gwaith penodol er mwyn mynd i'r afael â chydraddoldeb hiliol, a ni yw un o’r pedwar Cyngor Cydraddoldeb Hil sydd yn dal i wasanaethu yn y DU.

Llawr 1af Orllewinol, 113-116 Stryd Bute, Caerdydd
CF10 5EQ